Mae gan Steve Oakes a Martin Griffin dros 40 mlynedd o brofiad ar y cyd o addysgu a hyfforddi. Mae'r ddau wedi darganfod rhywbeth pwysig - nid y myfyrwyr sydd a chanlyniadau TGAU gwych, o anghenraid, sy'n dod yn eu blaenau yn dda ac yn gyson ar Safon Uwch. Mae rhai myfyrwyr yn neidio o gael canlyniadau cyffredin ym Mlwyddyn 11 i gael canlyniadau ardderchog ym Mlwyddyn 13. Mae eraill fel petaen nhw'n 'taro nenfwd'. Ond pam?Wrth iddyn nhw geisio ateb y cwestiwn hwn daeth y system VESPA i'r amlwg. Mae Steve a Martin wedi mynd at wraidd datblygu cymeriad ac wedi adnabod pum ymddygiad a nodwedd allweddol mae'n rhaid i bob myfyriwr eu cael er mwyn llwyddo: gweledigaeth, ymdrech, systemau, ymarfer ac agwedd. Mae'r nodweddion hyn yn llawer pwysicach na nodweddion gwybyddol. Trwy adnabod y nodweddion craidd sy'n cyfrannu at lwyddiant myfyrwyr, mae'r awduron wedi datblygu ystod eang o weithgareddau ymarferol i helpu pob myfyriwr i ddatblygu'r Meddylfryd Safon Uwch: 40 strategaeth glir, hygyrch a chymwys sydd wedi'u cynllunio i godi gwytnwch, positifrwydd, trefniadaeth a phenderfyniaeth myfyrwyr safon uwch. Ac yn yr adolygiad yma o'r llyfr, mae Steve a Martin yn cyflwyno ystod o astudiaethau achos a chyngor defnyddiol am sut i sefydlu'r model VESPA mewn ysgolion. Yn ogystal, maen nhw hefyd wedi ailysgrifennu'r rhagarweiniad i bob agwedd o'r model VESPA gan gynnwys gwybodaeth a mewnwelediadau newydd. Addas i athrawon, tiwtoriaid, arweinwyr Safon Uwch ac unrhyw un arall sydd am annog disgyblion safon uwch i gyflawni eu potensial.; Mewn Meddylfryd ar gyfer Safon Uwch: 40 gweithgaredd i drawsffurfio ymroddiad, cymhelliant a chynhyrchedd myfyrwyr, mae Steve Oakes a Martin Griffin yn rhannu sut i hyfforddi myfyrwyr i ddatblygu'r nodweddion, arferion a'r meddylfryd a fydd yn eu helpu i wireddu eu potensial.
While major retailers like Amazon may carry Meddylfryd ar gyfer Safon Uwch (40 gweithgaredd i drawsffurfio ymroddiad, cymhelliant a chynhyrchedd myfyrwyr), we specialize in bulk book sales and offer personalized service from our friendly, book-smart team based in Portland, Oregon. We’re proud to offer a Price Match Guarantee and a streamlined ordering experience from people who truly care.
We’re trusted by over 75,000 customers, many of whom return time and again. Want proof? Just check out our 25,000+ customer reviews—real feedback from people who love how we do business.
Prefer to talk to a real person? Our Book Specialists are here Monday–Friday, 8 a.m. to 5 p.m. PST and ready to help with your bulk order of Meddylfryd ar gyfer Safon Uwch (40 gweithgaredd i drawsffurfio ymroddiad, cymhelliant a chynhyrchedd myfyrwyr).